Lled band mawr o'n llinellau ni, i'ch llinellau chi.

Darganfyddwch fwy

Amdanom ni

Ni yw cwmni seilwaith mwyaf newydd Cymru, sy'n cynnig rhwydwaith ffeibr llawn newydd sbon â lled band mawr, yn barod i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd (ISPs) a gweithredwyr gysylltu’n syth ag ef, gan liniaru'r angen am waith adeiladu costus a llafurus.

Mae ein rhwydwaith ffeibr llawn yn rhedeg ar hyd llinellau rheilffordd, sy'n cynnig mynediad cadarn ac uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a darparwyr telathrebu sy'n ceisio cysylltu rhai o'r ardaloedd yng Nghymru sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.

Golyga hyn y daw rhyngrwyd cyflym i gartrefi a busnesau yn y rhanbarthau hyn yn rhywbeth hollol gyffredin, a fydd yn chwalu'r bwlch digidol ac yn hybu ffyniant, i bawb.

Sut y gallwn eich cysylltu chi

Os rydych chi am gyrraedd cymunedau newydd – dyma beth rydyn ni'n ei gynnig:

Ffeibr Tywyll

Rydym wedi adeiladu seilwaith ffeibr llawn a rhwydwaith ffeibr tywyll, sy’n barod i fynd, ar gyfer darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a gweithredwyr telathrebu.

Tonfeddi optegol

10 Gb, 100 Gb

Rydym yn cynnig ystod o wasanaethau gweithredol a adeiladwyd i fod yn hyblyg ac fel y gellir eu hehangu ar gyfer cysylltiadau cyflym.

Yr hyn rydym yn ei wneud

Rydym wedi adeiladu seilwaith rhyngrwyd ffeibr llawn â lled band mawr ynghyd ag uwchraddio a thrydaneiddio llinellau rheilffordd Craidd y Cymoedd yng Nghymru.

Mae ymgorffori ffeibr yn yr hyn sydd wedi’i adeiladu’n barod yn golygu ein bod wedi cadw costau, yr effaith amgylcheddol ac unrhyw darfu arall mor isel â phosibl - nid oes angen unrhyw waith adeiladu pellach.

Ar gyfer Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu, mae'r darn cymhleth wedi'i wneud - dim ond mater o gysylltu ydyw. Mae ein cysylltedd yn barod i fynd, y funud hon, gan gynnwys i rai o’r cymunedau yng Nghymru sydd fwyaf anodd eu cyrraedd, sydd â diffyg mynediad at y rhyngrwyd – yn ogystal ag ardal ein Prifddinas hefyd.

a Tfw staff memmber

Ein gwasanaeth

Ar hyn o bryd mae ein rhwydwaith yn rhedeg drwy linellau Craidd y Cymoedd yng Nghymru i ranbarth y Brifddinas, gan gysylltu rhai o'r mannau yng Nghymru sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.

a Tfw staff memmber
a Tfw staff memmber

Cysylltu

I ddarganfod mwy am ein gwasanaethau, anfonwch e-bost atom.