Lled band mawr o'n llinellau ni, i'ch llinellau chi.

Darganfyddwch fwy

Amdanom ni

Ni yw cwmni seilwaith mwyaf newydd Cymru, sy'n cynnig rhwydwaith ffeibr llawn newydd sbon â lled band mawr, yn barod i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd (ISPs) a gweithredwyr gysylltu’n syth ag ef, gan liniaru'r angen am waith adeiladu costus a llafurus.

Mae ein rhwydwaith ffeibr llawn yn rhedeg ar hyd llinellau rheilffordd, sy'n cynnig mynediad cadarn ac uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a darparwyr telathrebu sy'n ceisio cysylltu rhai o'r ardaloedd yng Nghymru sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.

Golyga hyn y daw rhyngrwyd cyflym i gartrefi a busnesau yn y rhanbarthau hyn yn rhywbeth hollol gyffredin, a fydd yn chwalu'r bwlch digidol ac yn hybu ffyniant, i bawb.

Sut y gallwn eich cysylltu chi

Ôl-drosglwyddo Ffeibr Tywyll Cyfanwerthu

Rheolwch bensaernïaeth eich rhwydwaith, gyda’r gallu i dyfu

Nodweddion:

  • Potensial lled band diderfyn
  • Amser ymateb cyflym, perfformiad uchel
  • Diogelwch gwell
  • Gallu i addasu a rheoli

Gigabit Connect

Cysylltedd pwynt i bwynt rhwng safleoedd neu ganolfannau data.

Nodweddion:

  • Gwasanaeth rheoledig, diwrthwynebiad
  • Amser gosod cyflym
  • Perfformiad gwarantedig

Gigabit Internet Connect (Mynediad Rhyngrwyd Pwrpasol)

Gwasanaeth cymesur wedi'i adeiladu ar ein rhwydwaith ffeibr cenhedlaeth nesaf, wedi'i gyflwyno i'ch busnes.

Nodweddion:

  • Cyflymderau: 900Mb/s neu 10Gb/s (eraill ar gais)
  • Llwybro Juniper MPLS

Business Connect (FTTP Broadband)

Band eang busnes dibynadwy gyda chysylltedd o ansawdd uchel, yn cefnogi eich gweithrediadau dyddiol.

Haenau:

  • Mynediad: 300Mbps
  • Craidd: 500Mbps
  • Uwch: 1Gbps
  • Yn cynnwys WiFi 6/6E, opsiynau protocol y rhyngrwyd statig, llwybrau uwchraddio
  • Ychwanegol: Rhwydweithio rhwyll, pwyntiau mynediad ychwanegol

Yr hyn rydym yn ei wneud

Rydym wedi adeiladu seilwaith rhyngrwyd ffeibr llawn â lled band mawr ynghyd ag uwchraddio a thrydaneiddio llinellau rheilffordd Craidd y Cymoedd yng Nghymru.

Mae ymgorffori ffeibr yn yr hyn sydd wedi’i adeiladu’n barod yn golygu ein bod wedi cadw costau, yr effaith amgylcheddol ac unrhyw darfu arall mor isel â phosibl - nid oes angen unrhyw waith adeiladu pellach.

Ar gyfer Darparwyr Gwasanaethau Rhyngrwyd a chwmnïau telathrebu, mae'r darn cymhleth wedi'i wneud - dim ond mater o gysylltu ydyw. Mae ein cysylltedd yn barod i fynd, y funud hon, gan gynnwys i rai o’r cymunedau yng Nghymru sydd fwyaf anodd eu cyrraedd, sydd â diffyg mynediad at y rhyngrwyd – yn ogystal ag ardal ein Prifddinas hefyd.

Ein gwasanaeth

Ar hyn o bryd mae ein rhwydwaith yn rhedeg drwy linellau Craidd y Cymoedd yng Nghymru i ranbarth y Brifddinas, gan gysylltu rhai o'r mannau yng Nghymru sydd fwyaf anodd eu cyrraedd.

Tfw map sylw
a Tfw staff memmber

Cysylltu

I ddarganfod mwy am ein gwasanaethau, anfonwch e-bost atom.